Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Hoffem ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol am eu hadroddiad ynghylch 'Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24’. Rydym wedi nodi ein hymatebion i argymhellion unigol yr adroddiad isod.

 

Argymhelliad 1: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dadansoddiad llawn o’r holl gyllid a ddefnyddiwyd i ariannu gweithgareddau sy’n ymwneud â Chwpan y Byd FIFA 2022. Dylai hyn gynnwys o ba linell gyllideb y daeth y cyllid.

Ymateb:Derbyn

 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod fod Cwpan y Byd FIFA 2022 yn cynnig cyfle unigryw i godi proffil rhyngwladol Cymru. O ganlyniad, datblygodd raglen gynhwysfawr o weithgareddau wedi'u cynllunio i wireddu uchelgeisiau'r Strategaeth Ryngwladol.

Gyda’i gilydd dyrannwyd cyllideb o £4.65m fel a ganlyn:

·         Cronfa Cefnogi Partneriaid - £1.8m wedi'i ddyrannu i 19 o brosiectau, llinell wariant 6250

 

·         Gweithgareddau marchnata, gan gynnwys Lleisiau Cymru - £2.5m, llinell wariant 6250

 

·         Gwerthusiad Allanol - £22,825, llinell wariant 6250

 

·         Ymgysylltu ac ymweliadau Gweinidogol - Bydd y costau hyn yn cael eu cyhoeddi ar y gronfa ddata ar gyfer teithiau tramor y Gweinidogion yma: Cyhoeddiad gwybodaeth am y Cod Gweinidogol: 5ed cynulliad | LLYW.CYMRU, Cyllidebau Canolog.

 

·         Gweithgarwch y Swyddfa Dramor Ryngwladol - £310,000 wedi'i ddyrannu, llinell wariant 3720   

 

 

 

 

 

 

 

Argymhelliad 2: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid ychwanegol wedi’i dargedu i’r sectorau chwaraeon a diwylliant i helpu lleoliadau a sefydliadau sy’n wynebu’r posibilrwydd o orfod cau ond sydd â dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng uniongyrchol, ac ar gyfer iechyd a llesiant y cyhoedd hefyd.

Ymateb: Gwrthod

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau chwyddiant eithriadol i gostau cyfleustodau a’r pwysau costau byw ar gyrff hyd braich a sefydliadau yn y sector lleol. Rydym wedi defnyddio'r Gyllideb ddrafft hon ar gyfer 2023-24 hyd eithaf ein gallu i sicrhau bod ein hadnoddau'n cefnogi cynifer o sefydliadau â phosibl o fewn y gyllideb sydd ar gael inni.

I gynorthwyo â'r pwysau hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i'r Llyfrgell Genedlaethol; Amgueddfa Cymru; y sector celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, y sector chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru; a'r amgueddfeydd a'r llyfrgelloedd cymunedol annibynnol yng Nghymru.

Byddai amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol yn gymwys i wneud cais i'r rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid bresennol am gymorth i ymgymryd â gwaith cyfalaf sy'n cefnogi cynaliadwyedd sefydliadau.

 

Argymhelliad 3: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu diweddariadau chwarterol i’r Pwyllgor ar faterion sy’n codi o ran meysydd sy’n wynebu heriau ariannol yng Nghymru.

 

Ymateb:Gwrthod

 

Mae hyn eisoes ar waith drwy Amserlen y Pwyllgor a'r cyfarfodydd rheolaidd a gynhelir rhwng Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

 

Argymhelliad 4: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pwy yw aelodau bwrdd goruchwylio’r strategaeth ddiwylliannol ac yn ymrwymo i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd a wnaed ar ddatblygu’r strategaeth.

Ymateb:Derbyn

 

Mae hyn eisoes yn cael sylw. Yn un o gyfarfodydd diweddar Grŵp Llywio y Strategaeth Ddiwylliant, gofynnwyd i'r aelodau a fyddent yn fodlon i’w henwau gael eu cyhoeddi ac roeddent yn unfrydol y gallai hyn ddigwydd yn awr. Mae fy swyddogion cyfathrebu wedi cynghori mai'r dull priodol ar gyfer cyhoeddi aelodaeth y Grŵp Llywio yw drwy ddatganiad ysgrifenedig y mae swyddogion bellach yn ei ddrafftio.

Yr wyf eisoes wedi ymrwymo, drwy sgyrsiau a chyfathrebiadau â Chadeirydd y Pwyllgor, ac yn fy natganiad ysgrifenedig cynharach i'r Senedd ym mis Tachwedd 2022, y byddaf yn rhoi diweddariad ar y cynnydd wrth i gerrig milltir allweddol yn natblygiad y strategaeth gael eu cyrraedd. Rwy’n fodlon cynnig sicrwydd pellach ar y mater hwn.

 

Argymhelliad 5:  Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hadroddiad cychwynnol ar ddatblygu strategaeth ddiwylliannol, yn llawn, pan fydd ar gael ym mis Mawrth 2023.

Ymateb:Gwrthod

 

Byddai Llywodraeth Cymru yn fodlon cynnig diweddariad ar y cynnydd ar ôl derbyn yr adroddiad interim. Fodd bynnag, nid ydym yn bwriadu llunio a chyhoeddi adroddiad cychwynnol yn ystod datblygiad y Strategaeth Ddiwylliant.

Bydd y cyfnod ymgysylltu â rhanddeiliaid, dan arweiniad y partner allanol, yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth ac rwy'n disgwyl cael adroddiad interim gan y partner ar ganfyddiadau ei weithgarwch ymgysylltu. Mae hyn yn un o ofynion y contract. Fodd bynnag, diben yr adroddiad interim yw darparu dogfen weithio yn rhoi dealltwriaeth gynnar i’r Aelod Dynodedig, y Grŵp Llywio, y tîm sy'n arwain ar ddatblygu'r strategaeth a minnau wrth inni symud tuag at ddatblygu drafftiau cynnar o'r strategaeth newydd.

 

Argymhelliad 6: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfanswm y cyllid a ddyrennir i chwaraeon ar draws y llywodraeth, y tu hwnt i’r hyn a ddarperir i Chwaraeon Cymru.

Ymateb:Derbyn

 

Mae ein gwariant a ddyrannwyd i chwaraeon yng Nghymru yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol i Chwaraeon Cymru gyda dyraniad refeniw o £23m a dyraniad cyfalaf o £8m ar gyfer 2023-24. Mae rhannau eraill o Lywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid yn anuniongyrchol i chwaraeon a gweithgarwch corfforol, er enghraifft, mae addysg yn darparu cyllid i gymunedau dysgu cynaliadwy gyfer cyfleusterau mewn ysgolion, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon. Er hynny, nid yw'n ymarferol datgysylltu'r elfen chwaraeon o'n gwariant cyffredinol.

 

 

 

Argymhelliad 7: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad cynhwysfawr o effaith gwariant ar y Gymraeg ar draws portffolios y llywodraeth, ac yn nodi sut y mae’n bwriadu monitro effaith gwariant ar draws meysydd polisi yn y dyfodol.

Ymateb: Derbyn

 

Drwy ein proses ar gyfer y gyllideb, rydym eisoes yn cyhoeddi cyfres o ddogfennau yn rhan o’r Gyllideb Ddrafft, sy’n cynnwys ymatebion Gweinidogion unigol i’w priod bwyllgorau craffu yn y Senedd, ac sy’n bwrw cyfrif manylach o ran sut y mae penderfyniadau yn y Gyllideb Ddrafft wedi effeithio ar wahanol grwpiau neu feysydd, gan gynnwys y Gymraeg. Mae’r Asesiad Effaith Integredig Strategol yn parhau i amlinellu’r dystiolaeth gyd-destunol sydd wedi cefnogi ein penderfyniadau o ran gwariant.

 

Strategaeth eang a ddarperir ar draws portffolios Llywodraeth Cymru yw Cymraeg 2050. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'r holl benderfyniadau sy'n cael eu gwneud ac yn cael ei hymgorffori mewn polisi a chyflawni o'r cychwyn cyntaf. Mae ein dull o gynnal asesiadau effaith integredig yn cefnogi ein huchelgais i weithio ar y cyd ar draws portffolios. Drwy ddwyn ynghyd yr ystod o ddyletswyddau asesu effaith gan gynnwys y Gymraeg mewn fframwaith cydlynol, mae'r asesiad yn lleihau cymhlethdod a dyblygu ac yn cael ei gefnogi drwy brosesau gwneud penderfyniadau cydlynol i gyfrannu at gyllidebau polisi a chyflawni cynhwysol. Oherwydd hyn nid yw'n bosibl adnabod gwariant y Gymraeg ar wahân.

 

Byddwn yn edrych ymhellach ar sut y gellir rhannu'r wybodaeth yn yr asesiadau effaith integredig er mwyn rhoi eglurder ar wariant disgwyliedig ar y meysydd polisi sydd ynddynt.

 

Er ein bod ni wedi ymrwymo i wella’r ffordd yr ydym yn amlinellu ac yn ymgymryd ag effeithiau ein penderfyniadau o ran gwariant, rhaid i’r dull hwnnw fod yn gymesur.

 

Mae cyllidebau penodol o fewn y portffolio y Gymraeg ac Addysg (y Gymraeg / Cymraeg mewn Addysg / Comisiynydd y Gymraeg) ac ymyriadau uniongyrchol eraill ar draws y llywodraeth fel ARFOR, y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a gofal plant. Fodd bynnag, y tu hwnt i hyn efallai y bydd effaith gwariant anuniongyrchol, yn enwedig pan nad y manteision yw prif ddiben y gwariant, yn amhosibl ei mesur neu bydd angen adnodd anghymesur i wneud hynny.

 

Mae ein hadnoddau yn canolbwyntio ar effaith mentrau ar draws y llywodraeth ac ar gyflawni ein cynlluniau gweithredu gan gefnogi ein huchelgeisiau yn Cymraeg 2050. Wrth gyflawni'r nodau hyn, byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

 

 

 

 

 

 

Argymhelliad 8: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu lefel y cyllid sydd ei angen er mwyn cynnal a gwella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch cyfrwng Cymraeg mewn cymunedau lleol ledled Cymru o ganlyniad i gostau byw uwch. Dylai'r adolygiad hwn hefyd ystyried effaith gwariant yn ogystal â'r swm a ddarparwyd.

 

Ymateb: Derbyn

 

Adeg llunio’r ymateb hwn, rydym yn disgwyl adroddiad annibynnol terfynol Adolygiad o’r Cynllun Grantiau i Hyrwyddo’r Gymraeg. Wrth inni ystyried argymhellion a chasgliadau’r adroddiad hwn, byddwn yn ystyried lefel y cyllid a roddir i’r maes hwn a hefyd sut mae asesu effaith y gwariant hwnnw.

 

Yn ei ddatganiad llafar ar 24 Ionawr eleni, Canlyniadau Cyfrifiad 2021 mewn perthynas â’r Gymraeg, fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gyhoeddi £260,000 o gyllid ychwanegol i dderbynwyr grant er mwyn cyfrannu at y costau byw cynyddol. Gwnaed cyhoeddiad i’r wasg ar 6 Chwefror: Mwy o gyllid i sefydliadau sy’n helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg | LLYW.CYMRU

 

 

Argymhelliad 9: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu sut y gall ddarparu cyllid refeniw ychwanegol penodol i gefnogi ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd unwaith eu bod wedi’u hagor. At hynny, dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallai gefnogi ysgolion ymhellach yn y sector cyfrwng Saesneg i symud ar hyd y continwwm ieithyddol ac ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

 

Mae dysgu proffesiynol yn un o nodweddion allweddol ein dull o symud ysgolion ar hyd y continwwm er mwyn darparu mwy o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y nodwyd yn y papur tystiolaeth, rydym yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i sicrhau bod ymarferwyr yn cael eu hadnabod a'u cefnogi i ymgymryd â dysgu proffesiynol er mwyn gwella addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chefnogi pob ysgol i symud ar hyd y continwwm categoreiddio ysgolion.

 

Bydd tua £6.1m yn cael ei ddyrannu yn y Llinell Wariant Datblygu a Chefnogi Athrawon yn 2023-24 i'r perwyl hwn. O dan y Cytundeb Cydweithio, bydd £1.675m yn cael ei glustnodi ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2023-24 i ddarparu cyrsiau i bobl ifanc 16-25 oed ac i’r gweithlu addysg. Cefnoga’r cyllid hwn gynllun peilot gyda’r cwmni Say Something in Welsh.

 

Ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, maent yn datblygu ap i atgyfnerthu sgiliau Cymraeg dysgwyr ac i fagu eu hyder. Mae gan ddatblygiadau fel hyn y potensial i gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob un o'n hysgolion. Rydym yn bwriadu cyflwyno'r cynllun peilot hwn i 10 ysgol cyfrwng Saesneg arall, ac mae'r cynllunio ar gyfer hynny'n dechrau yn awr.

 

Rydym hefyd yn buddsoddi £6.6m o gyllid refeniw dros gyfnod y Senedd hon i gefnogi pob awdurdod lleol i ddatblygu neu ehangu eu darpariaeth trochi hwyr. Mae darpariaethau trochi hwyr awdurdodau lleol wedi bod yn cael eu hariannu drwy’r Grant Cynnal Refeniw ac mae hyn yn cynnig cyfle felly i awdurdodau lleol addasu dibenion eu cyllid o’r Grant Cynnal Refeniw i gefnogi ysgolion newydd.

 

Yn ogystal â’r cyllid hwn, yn unol â Chynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg, rydym yn adolygu'r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi'r gwaith o ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol a chymorth i weithredu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg er mwyn sefydlu ffrydiau ariannu a deilliannau clir. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Wrth gwrs, nid yw’r un dull yn gweddu i bawb a rhaid inni barhau i ddod o hyd i gyfres o ymyriadau gwahanol i gefnogi pob dysgwr lle bynnag y maent ar eu taith iaith.

 

O'r 11 prosiect a flaenoriaethwyd i fwrw ymlaen i gam nesaf y broses achos busnes o dan ail gyfnod y grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg, cymeradwywyd cyfanswm o £32.1m o gyllid. Mae £30.8m ohono yn gyllid cyfalaf ac mae £1.3m ohono yn gyllid refeniw i gefnogi twf a defnydd y Gymraeg mewn addysg

 

 

Argymhelliad 10: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut y bydd yn rhoi cymorth ariannol ychwanegol i Gomisiynydd y Gymraeg lle bo angen, er enghraifft i gefnogi achosion cyfreithiol costus na ellid eu rhagweld.

Ymateb: Derbyn

 

Yn ôl amcangyfrif Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24, gall costau cyngor cyfreithiol amrywio'n sylweddol, ac mae hi’n anodd rhagweld yr amgylchiadau pan fo angen caffael cynrychiolaeth neu gyngor cyfreithiol.

 

Oherwydd aliniad cyllidebol cyrff llywodraeth ganolog, nid yw'n bosibl i gyrff gadw cronfeydd wrth gefn at ddibenion heb eu rhagweld a allai godi neu beidio. Rydym wedi cynghori'r Comisiynydd y dylai ei hamcangyfrif ariannol gynnwys lefel resymol a digonol o gyllid i dalu am gynrychiolaeth a chyngor cyfreithiol. Disgwyliad y Comisiynydd yw y bydd costau cyfreithiol dros y tymor canolig yn parhau i fod yn tua £80,000 y flwyddyn. Mae'r Comisiynydd felly wedi dyrannu cyllideb o £80,000 o'i chyllideb refeniw ar gyfer 2023-24 i dalu am gostau cyfreithiol.

 

Pe byddai costau cyfreithiol y Comisiynydd yn fwy na'r swm yn y gyllideb, ac na ellid neilltuo arian o rywle arall yn ei chyllideb, byddai angen i'r Comisiynydd ysgrifennu at Weinidogion Cymru a cheisio cyllid canol blwyddyn ychwanegol. Byddai’r Gweinidogion yn delio â’r ceisiadau hynny fesul achos pe byddent a phan fyddent yn codi